GALWAD PROSIECTAU CRONFA YSGOLORIAETH OWEN EDWARDS
Rhagarweiniad
Mae Ymddiried yn elusen gofrestredig a sefydlwyd i hyrwyddo a chynnal gweithgareddau addysgol mewn perthynas a theledu, ffilm, radio a chyfryngau digidol. Ei nôd yw ymestyn a chyfoethogi ystod sgiliau a phrofiad pobl sy’n gweithio’n broffesiynol yn y cyfryngau; cynnig cyfleoedd ymarferol i newydd-ddyfodiaid a galluogi cymunedau i gael mynediad i’r cyfryngau.
Cronfa Ysgoloriaeth Owen Edwards
Sefydlwyd Cronfa Ysgoloriaeth Owen Edwards er cof am gyn-ymddiriedolwr arbennig iawn, a oedd yn ymroddedig i ddatblygu gwasanaeth teledu a fyddai’n adlewyrchu dyheadau a diddordebau cymunedau ar draws Cymru gyfan. Erbyn hyn, bu cynnydd aruthrol yn y cyfryngau sydd ar gael, a daeth cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr a darparwyr cynnwys i hawlio’r tonfeddi.
Cred Ymddiried ei bod hi’n bwysig sicrhau mynediad agored i’r cyfryngau, a dealltwriaeth o hanfodion defnydd a pherchnogaeth o’r cyfryngau. Y bwriad yw cefnogi mentrau lleol a chymunedol, sydd yn barod yn gweithio tuag at hyn. Felly bydd rhan o gronfa Ysgoloriaeth Owen Edwards yn cael ei ddynodi ar gyfer prosiectau sydd yn darparu adnoddau, hyfforddiant a llwyfan newydd i grwpiau trwy weithgaredd cyfryngol. Gallai’r prosiectau hyn arwain at hybu creadigrwydd o fewn cymuned; datblygu mynegiant a hyder; a gallent, mewn rhai achosion, arwain at gyflwyno llwybr gyrfaol unigol.
Byddwn yn hapus i ystyried ystod eang o brosiectau – mawr neu fach, tymor byr / hir. Y peth pwysig yw fod yna brawf clir o’r angen a galw o fewn y gymuned benodedig honno.
Y Weithgaredd
Nid oes cyfyngiad ar hyd neu dymor y prosiectau ac nid oes rhaid iddo fod yn weithgaredd newydd – gellir cefnogi prosiectau sy’n bodoli’n barod ac angen cefnogaeth er mwyn datblygu’r ddarpariaeth ymhellach a sicrhau cynaladwyedd i’r dyfodol.
Byddwn yn croesawu prosiectau sy’n ystyried anghenion y gymuned leol a sut y gall creadigrwydd, dysgu sgiliau newydd a chael cyfleoedd ymarferol, gyfrannu at gyfoethogi profiadau ar draws pob oedran, a’r gymuned yn gyffredinol.
Mae prosiect y Gwallgofiaid ym Mlaenau Ffestiniog, a dderbyniodd gyfraniad drwy gynllun Partneriaeth Datblygu Ymddiried yn 2019, yn enghraifft o’r math o brosiect y gellid ei gefnogi gan Gronfa Ysgoloriaeth Owen Edwards eleni. Dyma glip o’r gwaith ffilm a gafodd ei gynhyrchu gan y criw yno. https://www.youtube.com/watch?v=mtUyg2EreVs
Cyfraniad Ariannol
Gallwn gynnig cyfraniad o £200 i £10,000 yn ol amcanion y prosiect.
Byddwn yn hapus i ystyried ceisiadau am offer, costau teithio (ble mae costau teithio’n rwystr rhag cymeryd rhan); adnoddau; hyfforddiant penodol; amser trefnwyr / arweinwyr.
Rydym hefyd yn barod i ystyried partneriaeth ariannu gyda darpar ffynonellau arianol eraill.
Meini Prawf
Bydd y prosiectau llwyddiannus yn dangos y canlynol:
– Pwrpas gymunedol glir
– Tystiolaeth o’r angen am y prosiect / gweithgaredd
– Cynllun prosiect clir
– Profiad perthnasol o reoli prosiectau
– Meini prawf cynhwysol i’r rhai sy’n cymeryd rhan
– Ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth o fewn y prosiect
Trefn Ymgeisio / Amserlen
Mawrth 9fed 2020
Cyflwyno braslun o’r prosiect, amcanion, natur y gweithgaredd, darpar ddefnyddwyr, manylion y darparwyr, amcan ariannol bras. (2 dudalen A4 ar y mwyaf)
Mawrth 30ain, 2020
Cadarnhau’r dyfarniad ariannol ar gyfer prosiectau rhwng £200 – £1,000
Cadarnhau’r prosiectau dros £1,000 a dderbyniwyd i’r rhestr fer. Bydd angen i’r rhain baratoi cais mwy manwl.
Ebrill 27ain, 2020
Prosiectau dros £1,000 i gyflwyno cais llawn.
Byddwn yn cysylltu gyda phob ymgeisydd ar y rhestr fer gyda’r penderfyniad erfynol erbyn Mai 29ain, 2020
Dylid gyrru’r ffurflenni cais ar e-bost yn unig at: post@ymddiried.cymru
Ni ystyrir unrhyw gais sy’n cyrraedd ar ol yr amser penodedig ar y dyddiad cau. Cyfrifoldeb yr Ymgeisydd yw sicrhau fod y cais wedi’ dderbyn.