Cwestiynau Cyffredinol
Pwy mae Ymddiried yn cefnogi?
- Unigolion sydd am ehangu eu sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a chyfryngau newydd.
- Mudiadau sy’n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgiadol er budd y sector gyfryngol.
Pa bryd mae’r dyddiadau cau?
- Mae 3 dyddiad cau swyddogol ar gyfer derbyn ceisiadau am gymorth arianol bob blwyddyn sef Mawrth 1af, Gorffennaf 1af a Tachwedd 1af. Bydd yr Ymddiriedolwyr i gyd yn cyfarfod yn fuan wedi’r dyddiadau cau, i drafod y ceisiadau fydd wedi dod i law erbyn hynny.
Pa fathau o weithgareddau mae Ymddiried yn hapus i’w cefnogi?
- Mynychu cyrsiau hyfforddi i ddatblygu sgiliau cynhyrchu neu grefft teledu, radio, cyfryngau newydd. Gall ‘rhain fod yn gyrsiau byr, rhan-amser neu lawn-amser. Er enghraifft, gweithdai sgriptio; cyrsiau i feithrin sgiliau technegol arbenigol a chyrsiau gwella sgiliau busnes.
- Mynychu cyrsiau addysg gradd uwch, ond nid cyrsiau gradd na chyrsiau perfformiadau llwyfan.
- Grantiau teithio i wyliau / marchnadoedd cydnabyddedig.
- Mudiadau neu gwmnïau sy’n cynnig rhaglenni hyfforddi / addysgiadol penodol.
- Prosiectau sy’n cyfoethogi’r profiad diwylliannol drwy gyfrwng teledu, ffilm, radio a’r cyfryngau newydd.
Pa weithgareddau sy’n syrthio tu allan i sgôp cefnogaeth Ymddiried?
- Costau cynhyrchu.
- Meysydd theatr, perfformio, newyddiaduraeth.
- Dydyn ni ddim yn talu am amser pobl er mwyn, e.e. datblygu syniad, sgript, a.y.b.
Oes modd derbyn cyfraniad tuag at gwrs gradd ?
Oes, ar gyfer gradd ôl-raddedig mewn maes perthnasol. Ond nid ydym yn ariannu ceisiadau i fynychu cyrsiau gradd gyntaf.
Oes modd derbyn cyfraniad tuag at gwrs perfformio teledu / ffilm / radio ?
Nag oes. Nid ariannu datblygiad perfformwyr yw ein nod, ond mae ‘na grantiau eraill ar gael gan eraill.
Oes mod derbyn cyfraniad tuag at gwrs perfformio llwyfan / canu ?
Nag oes. Nid ariannu datblygiad perfformwyr yw ein nod, ond mae yna grantiau ar gael gan eraill.
Sawl gwaith all unigolyn derbyn cefnogaeth ariannol?
Dwywaith yw’r uchafwm.