Ymgeisio am Gymorth Ariannol
Mae Ymddiried (Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig) yn rhoi cefnogaeth ariannol i unigolion sydd am ehangu eu sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a cyfryngau newydd.
Gall Ymddiried roi cymorth i fudiadau sy’n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgiadol er budd y sector gyfryngol.
Cyn ymgeisio am gymorth ariannol ar gyfer datblygu eich sgiliau mewn teledu, radio, ffilm, a chyfryngau newydd, rhaid i chi sicrhau eich bod yn ateb o leiaf un o’r gofynion canlynol:
- Wedi byw yn llawn amser yng Nghymru, am o leiaf ddwy flynedd cyn gwneud cais
- Eich bod wedi eich geni yng Nghymru
Sylwer y gofynnir i chi brofi eich cymhwyster.