Amcanion Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig
Pwy a beth mae’r Ymddiriedolaeth yn ei gefnogi / Beth yw ein amcanion ?
- Mynychu cyrsiau hyfforddi i ddatblygu sgiliau. Gall ‘rhain fod yn gyrsiau byr, rhan-amser neu lawn-amser. Er enghraifft, gweithdai sgriptio; cyrsiau i feithrin sgiliau technegol arbenigol a chyrsiau gwella sgiliau busnes.
- Mynychu cyrsiau addysg gradd uwch, ond nid cyrsiau gradd na chyrsiau perfformiadau llwyfan.
- Grantiau teithio i wyliau / marchnadoedd cydnabyddedig.
- Mudiadau neu gwmnïau sy’n cynnig rhaglenni hyfforddi / addysgiadol penodol.
- Prosiectau sy’n cyfoethogi’r profiad diwylliannol drwy gyfrwng teledu, ffilm, radio a’r cyfryngau newydd.
Sylwer nad yw’r Ymddiriedolaeth yn ariannu ceisiadau i fynychu cyrsiau gradd gyntaf.
Mae Ymddiried yn rhoi cefnogaeth ariannol i unigolion sydd am ehangu eu sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a cyfryngau newydd.
Gall Ymddiried roi cymorth i fudiadau sy’n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgiadol er budd y sector gyfryngol.