Gwahoddiad i Bartneriaeth Ddatblygu 2019
Rhagarweiniad
Mae Ymddiried yn elusen gofrestredig a sefydlwyd i hyrwyddo a chynnal gweithgareddau addysgol mewn perthynas â theledu, ffilm, radio a chyfryngau digidol. Ei nod yw ymestyn a chyfoethogi ystod sgiliau a phrofiad pobl sy’n gweithio’n broffesiynol yn y cyfryngau; cynnig cyfleodd ymarferol i newydd-ddyfodiaid a galluogi cymunedau i gael mynediad i’r cyfryngau.
Mae Ymddiried yn awyddus i ymestyn ei gyrhaeddiad trwy fanteisio ar ddatblygu partneriaethau strategol gyda sefydliadau eraill sy’n gweithredu ym myd y diwydiannau creadigol yng Nghymru trwy ddarparu cronfa arian fydd yn ychwanegu gwerth at brosiectau newydd neu brosiectau neu weithgareddau cyfredol. Nid yw’n fwriad gan yr Ymddiriedolaeth i ariannu’r cyfan o unrhyw weithgaredd.
Manylion
Hyd y Gweithgaredd:
Rhoddir ystyriaeth i brosiectau tymor penodol neu weithgareddau tymor hir. Ein bwriad yw cytuno’r cyllid ganol mis Ionawr 2019, a disgwylir i’r prosiectau gychwyn unrhyw bryd o fis Chwefror 2019 hyd at fis Medi 2019. Ar gyfer gweithgareddau tymor hir neu weithgareddau sy’n ail godi, rydym yn rhagweld y gallai’r cyllid fod ar gael tan fis Mawrth 2020.
Cyfanswm y cyllid ar gael:
Cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer ceisiadau yn y rownd yma yw £20,000. Yr isafswm ar gyfer unrhyw brosiect unigol yw £5,000 a’r uchafswm yw £20,000. Dylai’r costau gynnwys TAW os yw’n berthnasol.
Ymgeiswyr:
Mae’r Ymddiriedolaeth yn croesawu ystod eang o sefydliadau, yn cynnwys grwpiau cymunedol a’r trydydd sector, ysgolion, colegau a chyflenwyr hyfforddiant yn ogystal â mentrau bach a chanolig. Croesawir yn arbennig unrhyw brosiect sy’n dangos elfen gryf o bartneriaeth. Nid ystyrir cyllido ffilmiau neu brosiectau myfyrwyr fel rhan o’r cwrs gradd na chyrsiau gradd uwch.
Meini Prawf y Penderfyniad:
Bydd y prosiectau llwyddiannus yn dangos y canlynol:-
- Pwrpas addysgol clir
- Cyfeiriad partneriaeth cryf
- Tystiolaeth o’r angen am y prosiect/gweithgaredd
- Cynllun prosiect a chyllideb gadarn
- Gwybodaeth a phrofiad perthnasol y tîm
- Eglurder ynglŷn â’r gwerth ychwanegol fydd yn dod i’r bartneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth yn cynnwys y dull o ddefnyddio’r arian.
- Canlyniadau mesuradwy yn nhermau’r buddiannau i’r rhai fydd yn cymryd rhan ac i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
- Meini prawf cynhwysol i’r rhai sy’n cymryd rhan
- Gwerth am arian.
- Sefydlogrwydd ariannol.
- Ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth o fewn y prosiect.
Trefn Ymgeisio/Amserlen
Hydref 15fed, 2018 – 5.00 y pnawn
Cyflwyno braslun o’r prosiect : amcanion, natur y gweithgaredd, darpar ddefnyddwyr, manylion y darparwyr
[2 dudalen A4 ar y mwyaf]
Tachwedd 19eg, 2018
Cadarnhau prosiectau a dderbyniwyd i’r rhestr fer
Ionawr 9fed, 2019 – 5.00 y pnawn
Cyflwyno cais llawn gan ddilyn y canllawiau/meini prawf a osodwyd – gweler uchod.
Y cais ysgrifenedig fydd sail y penderfyniad ond gallai Ymddiried ofyn am fwy o wybodaeth ac o bosib galw ar ymgeisydd i fynychu cyfweliad os bydd angen.
Byddwn yn cysylltu gyda phob ymgeisydd ar y rhestr fer gyda’r penderfyniad terfynol erbyn Ionawr 31ain 2019.
Dylid gyrru’r ceisiadau ar e-bost yn unig at: post@ymddiried.cymru
Nid ystyrir unrhyw gais sy’n cyrraedd ar ôl yr amser penodedig ar y dyddiad cau. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau fod y cais wedi ei dderbyn.