Os wyt ti’n gweithio, neu’n gobeithio gweithio yn y cyfryngau.
Os wyt ti angen cymorth ariannol i ddatblygu dy sgiliau.
Falle gallwn ni dy helpu.
GWAITH YMDDIRIED
Mae Ymddiried yn:
- cynnig cefnogaeth ariannol iti ehangu dy sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a’r cyfryngau digidol
- helpu cyrff sy’n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgiadol i’r diwydiannau creadigol
GWNEUD CAIS AM GRANT
Mae 'na dri dyddiad cau ar gyfer ceisiadau pob blwyddyn: 1af o Fawrth; 1af o Orffennaf; a'r 1af o Dachwedd.
Ry’n ni yma i helpu datblygu sgiliau ar draws y diwydiant.
O’r traddodiadol– fel teledu, ffilm a radio; i’r cyfryngau digidol – fel podlediadau, realiti rhithwir a chynnwys i’w ffrydio, e.e. drwy YouTube.
Ry ni’n helpu cyrff sy’n datblygu sgiliau ac adnoddau addysgiadol i’r diwydiannau creadigol.
Ry ni hefyd yn cefnogi mentrau cymunedol.
DELWEDD(AU) SUPERTED © Petalcraft Demonstrations Ltd