Grant a roddwyd i: Hannah Loy
Cyfraniad Ymddiried: £1,100
Rhoddodd ‘Ymddiried - Media Grants Cymru’ un o’r cychwyniadau gorau y gallaf feddwl amdano ar gyfer lansio fy nghwmni cynhyrchu sain. Yn ôl yn 2014, tra yn y BBC, gynhyrchais fy rhaglen ddogfen radio gyntaf erioed o’r enw The Lost Women of British Jazz. Aeth y rhaglen ddogfen hon ymlaen i gael ei henwebu ar gyfer gwobr Prix Europa yn y categori ‘Sain Cerddoriaeth’. Yn ystod fy wythnos yn yr ŵyl ym Merlin, agorwyd fy llygaid i werth treulio amser i wrando a gwerthuso gwaith cynyrchiadau o bob rhan o Ewrop. Wnes i byth anghofio’r profiad, ac es ymlaen i gynhyrchu mwy o raglenni dogfen ar gyfer Radio 4, Radio Wales, y World Service ac yn y diwedd fy nghyfres podlediadau fy hun (ar gyfer y BBC) o’r enw The Aberystwyth Book Club ar BBC Sounds.
Deng mlynedd yn ddiweddarach, ac ar ôl gadael y BBC yn 2024, rwyf wedi sefydlu fy nghwmni cynhyrchu sain fy hun, sydd wedi’ leoli ger Aberystwyth, o’r enw Read the Room Productions. Lansiais yn swyddogol ar ddechrau mis Hydref 2024 a gwnes gais am y grant i ddychwelyd i Ŵyl Ddarlledu Prix Europa. Roedd hi’n teimlo fel petai hanes yn ail-adrodd ei hun wrth imi lwyddo i gael y grant a theithio’n ôl i Ferlin, 10 mlynedd yn ddiweddarach gyda fy nghwmni cynhyrchu newydd sbon ar waith.
Ar y diwrnod cyntaf fe'ch gwahoddir i gofrestru yn The Haus des Rundfunks, lle’r byddwch yn derbyn eich tocyn am yr wythnos ac arweinlyfr enfawr yn rhestru'r holl gynyrchiadau ar y rhestr fer mewn categoriau sain, gweledol a digidol. Ar y ddau ddiwrnod cyntaf penderfynais fod yn ‘sylwebydd’, gan olygu fy mod yn gallu gwrando / gwylio ar draws pob categori. Canolbwyntiais fy amser yn bennaf ar wrando ar y cyflwyniadau Sain Dogfen a Ffuglen. Ar y dydd Mercher a’r dydd Iau, roeddwn yn aelod o'r rheithgor ar gyfer y Categori Cerddoriaeth Sain. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wrando ar yr holl gynyrchiadau o fewn y categori gan eu bod yn cael eu chwarae allan yn yr ystafell; bod yn ran o'r drafodaeth ar ddiwedd pob dydd, a chael hawliau pleidleisio. Er fod y ddau ddiwrnod hyn yn rai dwys, fe wnes i fwynhau gwrando ar cymaint o wahanol ‘mathau’ o raglenni cerddoriaeth - o bodlediadau, i sioeau sgwrsio; o gyngherddau, i raglenni dogfen. Ar y diwrnod olaf cawsom ein gwahodd i seremoni wobrwyo emosiynol iawn, ble’r datgelwyd enillydd pob categori a chawsom gyfle i ddathlu gyda phawb yr oeddem wedi cyfarfod â nhw yn ystod yr wythnos.
Diolch i Ymddiried, cefais gyfarfod â chynhyrchwyr o bob rhan o Ewrop, yn ogystal â chael y cyfle i wrando’n astud ar eu cynyrchiadau a thrafod eu proses. Nid yn unig y rhoddodd lawer iawn o ysbrydoliaeth a mewnwelediad i mi, ond rhoddodd imi hefyd rwydwaith o bobl yn y diwydiant yr wyf yn ymddiried ynddynt ac yn eu hedmygu. Mae’r cyfle wedi tanio cynlluniau uchelgeisiol ynof, a nawr fy mod yn ôl yng Nghymru, alla i ddim aros i ddechrau cychwyn gweithio arnynt.