Dangosiad Ffilm fer
Grant a roddwyd i: Lowri Palfrey
Cyfraniad Ymddiried: £1,800
Ar ôl dod yn fam yn 2019 arafodd y gwaith actio ac yna digwyddodd y cyfnod clo. Roeddwn i'n ysu i fod yn greadigol ac i weithio, ond heb unrhyw arwydd o glyweliadau dechreuais ysgrifennu rhywbeth y gallwn fod ynddo. Ddwy flynedd yn ddiweddarach daeth Hêri i fodolaeth; ffilm fer am fam dan straen gyda dau o blant bach sy'n cael ymweliad gan ffrind plentyndod mawr, blewog sy'n ei helpu i gael ei bywyd yn ôl at ei gilydd. Er i’r ffilmio dod i ben yn 2021, fe gymerodd ddwy flynedd arall i orffen y golygu, y cymysgu sain, y graddio a’r lliwio oherwydd bod y gyllideb yn nesa peth i ddim. Ond roedden ni wedi ei wneud! Nawr beth?
Torri i Ebrill 2024: rydw i a fy nghyd-gynhyrchydd yn hedfan i San Francisco i fynychu Gŵyl Ffilm Poppy Jasper lle mae Hêri yn cael ei dangos. Cyrhaeddom Gilroy ganol y prynhawn lle buom yn aros gyda theulu oedd yn gysylltiedig â’r ŵyl ffilm. Mwynheuon ni ychydig o ginio gyda nhw cyn mynd i’n digwyddiad gŵyl gyntaf, y Poppy Bash. Roedd y noson yn ddathliad o ffilm a cherddoriaeth yng Nghanolfan Ddigwyddiadau Capos. Roeddem wrth ein bodd i weld bod Hêri wedi ei chynnwys fel un o lond llaw o ffilmiau - o’r 200 oedd yn cael eu dangos - i fod yn rhag-hysbyseb i'r ŵyl.
Y bore canlynol, aethom i'r Mimosa Brunch a gynhaliwyd gan yr ŵyl ar winllan leol. Y prynhawn hwnnw cawsom fynychu dangosiad ein ffilm fer yn The Barn yn Mission Farm, San Juan Batista. Fe wnaethon ni fwynhau gwylio'r ffilmiau dethol eraill yn ein slot sgrinio yn fawr a chawsom ein galw i wneud sesiwn holi-ac-ateb byrfyfyr ar y diwedd. Uchafbwynt personol oedd pan ddaeth dwy fenyw hŷn ataf a oedd wedi mwynhau'r ffilm a dweud roedden nhw’n uniaethu â'r stori o'u profiadau eu hunain o fod yn fam. Roedd hynny’n golygu’r byd i mi; bod rhywbeth roeddwn i wedi'i greu yn atseinio gyda merched o oedran a chyfandir arall.
Ni allaf ddechrau diolch digon i Ymddiried am wneud hyn yn bosibl, mae’n brofiad y byddaf yn ei drysori am byth. Diolch!