Grant a roddwyd i: Clare Sturges
Cyfraniad Ymddiried: £700 tuag at ffioedd a threuliau
Arweinydd y cwrs oedd y cyfarwyddwr o Sweden, Jonas Grimes, ac roedd y cwrs wedi ei gynllunio i gynorthwyo cyfarwyddwr dramâu sy’n lled newydd i wella eu sgiliau paratoi.
Cynhaliwyd y cwrs dros ddau ddiwrnod heulog yng Nglasgow. Roedd y cwrs yn edrych ar nifer o agweddau o waith cyfarwyddwr teledu, gan gynnwys mewnwelediad Jonas i’r hyn mae’n ei gredu yw rôl y cyfarwyddwr; sut i edrych ar sgript a sut i’w drwsio os nad yw’n gweithio; cyngor ar gastio actorion; arweiniad ar sut i weithio ar greu steil weledol; a’r ‘tools’ i ddod o hyd i ddatrysiad un siot ar gyfer golygfa pan ‘dan bwysau amser. Ochr yn ochr â’r tameidiau yma o ddoethineb, rhannodd Jonas ei ganfyddiadau ef - wedi oedd wedi eu seilio ar brofiad - o sut i gyfarwyddo actorion a gadael iddyn nhw roi eu perfformiad gorau, a hynny - yn ei eiriau ei hun ‘drwy wneud nesa peth i ddim’.
Roedd cynnwys a steil gyflwyno’r cwrs yn ddefnyddiol ac yn ddeniadol - llwyth o fewnwelediadau a chyngor i mi eu defnyddio wrth weithio ar brosiectau drama i’r teledu a hefyd ar brosiectau personol a ffilmiau. Rwy’n hynod ddiolchgar i Ymddiried: Media Grants Cymru am fy nghefnogi i fynychu. Bydd yr hyn ddysgais ar y cwrs yn help wrth i mi baratoi ar gyfer fu mhrosiect cyfarwyddo teledu nesaf.