Grant a roddwyd i: James Davies
Cyfraniad Ymddiried: £6,500 dros 2 flynedd
Roeddwn yn ddigon ffodus i dderbyn cefnogaeth ariannol gan Ymddiried: Media Grants Cymru i astudio MA Ysgrifennu Sgrin yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Cenedlaethol o 2022 i 2024. Am fy mlwyddyn gyntaf, derbyniais £3,000 ac yn fy ail flwyddyn, derbyniais £3,500. Helpodd i dalu am fy nheithio, costau bwyd, a biliau (Mae Beaconsfield yn le drud i fyw!). Mae wedi bod yn uchelgais gennyf erioed i gael lle ar gwrs hynod gystadleuol yr NFTS. Ni fyddai wedi bod yn bosib heb y gefnogaeth ariannol y cefais.
Yn fy mlwyddyn gyntaf, cefais gyfle i ddatblygu fy llais fel awdur gan arbrofi mewn gwahanol feysydd adloniant. Buom yn gweithio ar ddramâu radio, theatr, ffilmiau byr, animeiddio, teledu, a ffilmiau nodwedd, oll yn gyfle i ni ddarganfod pa fathau o straeon sy'n gwneud i ni dicio fel awduron. Cawsom hefyd gyfle i dderbyn sesiynau anhygoel gyda rai o brif awduron a gwneuthurwyr ffilm y diwydiant. Cawsom ddosbarthiadau meistr gyda Louis Theroux, Alex Garland, Danny Boyle, Denis Villeneuve, a hyd yn oed cael sesiynau un-i-un gydag awduron fel Phoebe Waller-Bridge a Martin McDonagh. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, roedd gen i sgript ffilm nodwedd; cynhyrchiad theatr broffesiynol; ac amryw o driniaethau ‘sbec’ i fy enw.
Yn fy ail flwyddyn, roeddwn i'n gallu cymryd popeth roeddwn i wedi'i ddysgu yn y flwyddyn flaenorol a'i ddefnyddio yn fy narnau portffolio terfynol, a oedd yn cynnwys dau beilot teledu gwreiddiol a beiblau, a sgript nodwedd. Cafodd ein grŵp ysgrifennu cyfle i fynd ar wythnos ‘awduron’ i Gernyw, oedd yn gyfle anhygoel i weithio ar ein prosiectau terfynol. Tua diwedd y flwyddyn, cafodd ein grŵp gyfres o sesiynau “cwrdd â’r diwydiant”, lle cawsom gyfarfodydd un i un gyda phrif gwmnïau ac asiantaethau cynhyrchu’r DU. Roedd hwn yn brofiad wirioneddol amhrisiadwy a roddodd gysylltiadau i ni ag unigolion a chwmnïau y byddem erioed wedi cael mynediad atynt fel arall. Ar ddiwedd ein cwrs dwy flynedd, cynhyrchom sioe radio yn y Soho Theatre yn Llundain, lle buom yn arddangos ein gwaith i gynulleidfa o’r Diwydianau Creadigol.
A minnau bellach wedi graddio o’r NFTS, mae gen i gyfres deledu Cymraeg gwreiddiol mewn datblygiad gyda chwmni cynhyrchu , dwi hefyd yn cyd-ysgrifennu ffilm nodwedd fydd, gobeithio yn cael ei ffilmio eleni a dwi newydd ddychwelyd o Ŵyl ffilmiau Cannes 2024 wedi i ffilm animeiddiedig yr ysgrifennais, “Bunnyhood” enill y 3ydd wobr yn La Cinef. Heb gefnogaeth Ymddiried dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl ac rwy'n hynod ddiolchgar am eu cyllid a chefnogaeth.