Grant a roddwyd i: Gabi Bania
Cyfraniad Ymddiried: £2,900
Gyda diolch i gymorth gwych Ymddiried: Media Grants Cymru, a gefnogodd fi gydag ysgoloriaeth o £2,500.00, llwyddais i ddilyn cwrs MA Animeiddio ym Mhrifysgol De Cymru. Roedd y grant pellach o £400.00 a gefais yn caniatáu i mi fuddsoddi mewn meddalwedd ac offer sy'n hanfodol yn fy ngwaith fel crëwr annibynnol ffilmiau byr, wedi'u hanimeiddio mewn amrywiol dechnegau.
Rwy’n hynod ddiolchgar i’m cefnogwyr am fy ngalluogi i ddechrau taith myfyriwr MA, sydd hefyd yn gam yn nes at gyflawni fy nôd o ddod yn gyfarwyddwr animeiddio proffesiynol.
Yn ystod y cwrs fe wnes i ymarfer animeiddio yn ogystal â sgiliau cynhyrchu. Nid yn unig es i'n fwy datblygedig mewn perfformiad cymeriad 3D a dylunio 2D, ond fe wnes i hefyd greu ffilm fy mreuddwydion - sef animeiddiad pyped stop-symud "Nibbling of the Night", am annibyniaeth merched, fampirod, a chaethiwed i glythineb nos. Ar hyn o bryd mae'r ffilm yn cael ei dangos mewn gwyliau rhyngwladol, ac mae eisoes wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr "Y Ffilm Animeiddiedig Orau" yn yr "Urbanite Arts & Film Festival" yn Efrog Newydd.
Caniataodd y cwrs i mi ddysgu gan fy nghyd-ddisgyblion, datblygu fy hunaniaeth fel gwneuthurwr ffilmiau a meistroli’r grefft o siarad yn gyhoeddus. Yn ystod fy amser yn y Brifysgol, cymerais ran fel cyfarwyddwr llafar mewn nifer o ddigwyddiadau, e.e: “Screenshare” yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd neu “Filmmakers’ Shindig” ym Mryste. Dechreuais hefyd roi dosbarthiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer myfyrwyr ysgol uwchradd, yn eu haddysgu am dechnegau animeiddio. Yn ddiweddar, cefais wahoddiad i roi darlith am yr ysbrydoliaeth o lenyddiaeth gothig, sydd y tu cefn i’r ffilm "Nibbling of the Night", a hynny yng ngŵyl "Romanticon" yng Ngwlad Pŵyl.
Cefais fy hyfforddi hefyd ym maes cyflwyno prosiectau newydd mewn cysyniad a ffurfio beiblau traw. Paratoais ychydig o feiblau o ffilmiau animeiddiedig newydd mewn fformatau byrrach a hirach, ac rwy'n gobeithio cysylltu â chynhyrchwyr nawr a allai fy nghynghori ar eu datblygiad pellach.
Fel myfyriwrwraig MA, cefais gyfle i ymweld â stiwdios ‘A Productions’ ym Mryste; cael y cyfle i siarad â’i bobl greadigol/animeiddwyr yn ogystal â chymeryd rhan mewn gwyliau ffilm fel Gŵyl VFX yn Llundain (wedi’ drefnu gan Escape Studio) a roddodd gipolwg i mi ar y diwydiant animeiddio. Diolch i’r ŵyl, rwyf bellach yn fentor ar raglen ACCESS:VFX sy’n cael ei fentora gan uwch animeiddiwr o gwmni Jellyfish. Trwy gydol y flwyddyn academaidd fe wnaeth fy sgiliau rhwydweithio a busnes wella hefyd, gan wneud i mi fod yn lawer mwy hyderus ar fy llwybr fel gwneuthurwr ffilmiau animeiddio y dyfodol.