Gŵyl Ffilm Llundain

Tina Pasotra

Ar ddechrau’r flwyddyn cefais y cyfle i gysgodi rhywfaint o’r broses ôl-gynhyrchu ar gyfer y ffilm nodwedd Unicorns, a ysgrifennwyd gan James Krishna Floyd a’i chyd-gyfarwyddo â’r gwneuthurwr ffilmiau Sally El Hosaini. Gwnaethant fy ngwahodd i’r premier o Unicorns yng Ngŵyl Ffilm Llundain a diolch i’r gronfa hon roeddwn yn gallu mynychu a chwrdd ag aelodau cast a chriw'r ffilm. 

ffilmiau gan gynnwys James Samuel, The Book of Clarence. Yn aml mae gan LFF wneuthurwyr ffilm yn cyflwyno eu ffilmiau, a sesiynau Holi ac Ateb ac ati felly roedd yn fuddiol iawn cael profiad o’r ochr honno i’r ŵyl. Wnes i gyfarfod â chyfoedion ac roeddwn yn gallu gweld gwneuthurwyr ffilm nad oeddwn wedi eu gweld ers cyn cyfnod Covid. I bobl sy’n byw tu allan i Lundain, mae’n bwysig iawn mynychu’r digwyddiadau hyn i ddatblygu a chynnal perthynas. Diolch eto Ymddiried am y cyfle i fynychu'r ŵyl ac ymgysylltu â’r diwydiant. 

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn