Cwestiynau Cyffredin
Pwy mae Ymddiried yn cefnogi?
- Unigolion sydd eisiau ehangu eu sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a chyfryngau newydd.
- Mudiadau sy’n helpu datblygu sgiliau unigolion.
- Mudiadau sy’n creu cyfleoedd addysgiadol i bobl sydd eisiau gyrfa yn y cyfryngau.
- Mentrau cymunedol.
Pa fath o bethau ry’n ni’n yn hapus i’w cefnogi?
- Cyrsiau hyfforddi i ddatblygu sgiliau teledu, ffilm, digidol a sain.
- Gall ‘rhain fod yn gyrsiau byr iawn, rhan-amser neu lawn-amser.
- E.e. gweithdai sgriptio; cyrsiau sgiliau technegol a chyrsiau gwella sgiliau busnes
- Cyrsiau addysg gradd uwch (MA ayyb)
- Grantiau teithio i wŷliau, cynhadleddau a marchnadoedd priodol
- Mudiadau neu gwmnïau sy’n cynnig rhaglenni hyfforddi neu addysgiadol
- Projects that enrich the cultural experience through TV, film, digital and audio
- Gallwn hefyd gefnogi unigolion sy’n dechrau ar eu gyrfa gyda chostau teithio i’r gweithle
Beth na allwn gefnogi?
- Costau cynhyrchu
- Meysydd theatr, perfformio, newyddiaduraeth
- Amser pobl er mwyn datblygu syniad, sgript, ayyb
- Cyrsiau gradd (BA ac ati)
Sawl gwaith ga’i derbyn cefnogaeth ariannol gan Ymddiried?
- Un waith mewn dwy flynedd yw’r uchafswm.
Nid oes gan Ymddiried criteria ariannol penodol wrth ystyried dy gais ond ry’n ni yn disgwyl bod arian ar gael o ffynhonnell arall hefyd i dy gefnogi. Gall hynny fod ar ffurf grant neu ysgoloriaeth, gyfraniad personol ayyb.
RHANNWCH
Twitter
LinkedIn