Cyrsiau ôl-gynhyrchu sy’n rhad ac am ddim!

Academi Gorilla yw ochr hyfforddi Gorilla Post ac yn ddiweddar fe dderbynion nhw rhywfaint o Gyllid Sgiliau Creadigol y llywodraeth i ddarparu hyfforddiant ôl-gynhyrchu i bobl yn y diwydiant Teledu a Ffilm sy’n gweithio neu’n byw yng Nghymru.

Mae ganddyn nhw sesiwn lefel mynediad ar “sut i fod yn redwr”, ‘data wranging’ a chwrs ‘Cyflwyniad i Media Composer’ i sôn am rai yn unig.

I'r rhai sy’n fwy profiadol, mae ganddyn nhw ychydig o sesiynau DPP ar y gweill gan gynnwys sgiliau ‘Gwir-olygu ar Premiere’, ‘Finishing in Resolve’ yn ogystal â rhywfaint o sesiynau ‘pipeline a workflow ar gyfer ar lliwio a graddio; HDR a SDR i gynhyrchwyr Avid.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi (Byddai Dewi mor browd!) Sef dydd Sadwrn 1af a dydd Sul 2il o Fawrth cynhelir cwrs ‘Cyflwyniad i Media Composer’ try gyfrwng y Gymraeg a’r bonws yw bod ei ddeunydd hyfforddi hefyd yn Gymraeg!

https://gorillagroup.tv/course/csf_mc_cymraeg/

Hefyd ar y gweill mae:

Gorffen yn Premier Pro ar gyfer Gwir Olygu ar Chwefror 24ain a 25ain

https://gorillagroup.tv/course/csf_premiere_pro/

Media Composer i Gynhyrchwyr ar dddd Sadwrn, Mai’r 8fed

https://gorillagroup.tv/course/csf-avid-producers/

I gadarnhau, mae’r cyrsiau yma AM DDIM ac yn agored i bobl sy’n hunangyflogedig ac i rai sy’n gyflogedig.

Mae’r cyrsiau yma wedi eu lleoli yng Nghaerdydd ond mae’r Academi’n awyddus i gynnal cyrsiau yn y gogledd hefyd, felly cysylltwch â Paul i drafod  paul.hawke-williams@gorillagroup.tv

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn