Cynhaliwyd première fy ffilm, Donna yng ngŵyl Frameline Film, San Francisco ym mis Mehefin 2022. Fel gwneuthurwr ffilmiau, roedd cael y cyfle i ddangos fy rhaglen ddogfen nodwedd gyntaf mewn gŵyl mor uchel ei pharch ar y llwyfan rhyngwladol yn amhrisiadwy – ar lefel broffesiynol a phersonol. Ni allwn fod wedi gwneud hyn heb gymorth ariannol Ymddiried
Roedd Gŵyl Ffilm Frameline yn ddigwyddiad gwych. Cafodd mwy na chant o ffilmiau LHDTC+ – annibynnol a masnachol – eu dangos dros 10 diwrnod mewn nifer o leoliadau yn Ardal y Bae, California. Trefnodd Frameline nifer o ddigwyddiadau a oedd yn ddefnyddiol i mi fel gwneuthurwr ffilmiau gan gynnwys ‘brunch’ diwydiant a sesiynau rhwydweithio dyddiol. Wnes i gyfarfod â llawer o wneuthurwyr a golygyddion ffilmiau dogfen. Dwi wedi cadw mewn cysylltiad â nhw ac mae’n debygol y byddaf yn gweithio gyda nhw yn y dyfodol. Gan mai hon oedd fy ngŵyl ffilm fawr gyntaf ers 4 blynedd, roedd yn wych cysylltu â chymaint o gyfoedion. Cysylltais hefyd â sinematograffwyr o’r UDA, cynhyrchwyr, cwmni cynhyrchu lleol a chynrychiolwyr o blith noddwyr Frameline. Cefais gyfle i siarad am fy ffilm nodwedd nesaf gyda chyllidwyr, ac mae’r sgyrsiau hyn yn parhau ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd première fy ffilm yn theatr eiconig y Castro Theatre gyda chynulleidfa fawr o fynychwyr ffilm lleol a chast a chriw yn gysylltiedig â’r ffilm. Roedd yn brofiad anhygoel gweld fy ffilm ar y sgrin fawr, a chafodd dderbyniad da iawn. Roedd bod yno a chael ‘standing ovation’ wrth i’r credydau godi yn rhywbeth bythgofiadwy. Roedd cyflwyno’r ffilm i fwy na 300 o westeion a chymryd rhan mewn sesiwn holi-ac-ateb wedyn yn teimlo fel eiliad fawr yn fy ngyrfa. Ers hynny dwi wedi derbyn nifer o negeseuon cefnogol a chynigion o waith posibl. Tra yno, cefais gyfle i gryfhau fy mherthynas gyda staff gŵyl Frameline, a dwi’n edrych ymlaen at gyflwyno rhagor o ffilmiau a gwneud cais am gyllid cwblhau gyda nhw.
Mae’r dangosiad wedi arwain at nifer o ymholiadau gŵyl eraill o Ganada a’r Unol Daleithiau, yn ogystal â dangosiad pellach yn yr Hydref mewn sinema adnabyddus arall yn San Franciscan – y Roxie.
Roedd yr adolygiadau a’r ymateb cyfryngau cymdeithasol i’r dangosiad yn bwerus a chredaf y bydd yn cadarnhau fy safle yng nghymuned gwneud ffilmiau Ardal y Bae, yn ogystal â’r gymuned Gymraeg. Diolch Ymddiried.