Ar ddiwedd 2017, cefais gynnig lle ar y gwrs MA Golygu clodfawr yn yr NFTS, yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol. Er y cyfle arbennig hwn, ysgoloriaeth gan Ymddiried a dweud y gwir a alluogodd fi, mam sengl i ddau o blant, i ymrwymo i’r MA. Rwy’n ddiolchgar tu hwnt i Ymddiried am gyfrannu tuag at fy ffioedd ysgol. Cymerodd yr ysgoloriaeth hon bwysau ariannol enfawr oddi ar fy ysgwyddau a chaniatáu imi ganolbwyntio’n llawn ar gael y gorau o’r cwrs. Am hyn, dwi’n ddiolchgar iawn.
Ers hynny, bues i’n un o 8 golygydd yn NFTS yn datblygu ein sgiliau technegol a sgiliau adrodd straeon ochr yn ochr â myfyrwyr eraill: cyfarwyddwyr, cyfansoddwyr, dylunwyr sain, ysgrifenwyr sgrin, cynhyrchwyr ac artistiaid VFX. Rydyn ni wedi dysgu’r grefft trwy greu ffilmiau, dysgu wrth wneud camgymeriadau, a dysgu wrth gydweithio’n greadigol ac effeithiol gyda’n gilydd. Dwi wedi dysgu cymaint trwy wylio ‘rushes’ a golygiadau myfyrwyr eraill, trwy eistedd mewn sesiynau adolygu wythnosol, a thrwy ddysgu cynnig a derbyn beirniadaeth adeiladol ar ffilmiau. Roedd rhain yn gyfleoedd amhrisiadwy, a phob un o dan arweiniad tiwtoriaid golygu eithriadol yr NFTS fel Richard Cox (Gentleman Jack), Clare Ferguson (Aileen: Life and Death of a Serial Killer), tiwtoriaid gwadd fel Will Oswald (Good Omens) and Lucien Clayton (Derry Girls), and masterclasses with film editors such as Mick Audsley (The Personal History of David Copperfield) a Jon Gregory (Three Billboards Outside Ebbing Missouri).
Apart from the various learning exercises, over the two years I’ve edited six short fiction films (one of them, Room for Two, will be screened as part of the BFI Flare later this month), two observational documentary shorts, a 40 minute science & natural history film, a 10 minute animation and a series of commercials. I was also the Edit Assistant on November 1st, a short fiction that won Bronze at the Student Oscars in 2019 and which was long-listed for a BAFTA.
Yn NFTS, dysgais taw’r broses o gydweithio creadigol yw’r peth pwysicaf i’w feistroli. Dwi’n falch tu hwnt mod i wedi gallu cydweithio’n agos ac yn gynhyrchiol gyda chymaint o fyfyrwyr eraill ac wedi llwyddo i greu partneriaethau gweithio arbennig iawn.
Wythnos diwethaf, cyflwynon ni ein ffilmiau gradd ffuglen, dogfen ac animeiddio i gynulleidfa wahoddedig yn Picturehouse Central a graddio yn yr Empire Leicester Square. Mae wedi bod yn ddwy flynedd wefreiddiol, a dwi wedi dysgu llawer am fy hunan fel golygydd – dwi’n cael fy nenu at straeon llawn emosiwn a dwi’n mwynhau dod â sensitifrwydd a chwilfrydedd i’r deunydd. Dwi’n falch tu hwnt mod i wedi cael y cyfle yma a gallaf argymell y profiad i unrhyw un.
Mae nhw’n dweud bod popeth yn edrych amhosib hyd nes iddo ddigwydd. Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd fy mreuddwyd o weithio fel golygydd mewn ffilm a theledu yn teimlo’n bell ac anghyraeddadwy. Nawr, gyda chefnogaeth Ymddiried, dwi’n olygydd dwyieithog gyda chyfoeth o brofiad, ac sy’n barod i fod yn rhan o’r gymuned gwneud ffilmiau yng Nghymru. Diolch yn fawr.