Pedair blynedd yn ôl, rhoddodd Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig arian i mi wneud cwrs sgriptio (ac mae’r amser wedi hedfan!) Ers hynny, ac yn uniongyrchol oherwydd y cwrs, roeddwn eisiau gwneud rhaglen ddogfen. Wel, rwy’n falch o gael dweud y gwnaeth y BBC gomisiynu syniad gen i ar gyfer cynllun It’s My Shout – dyma’r tro cyntaf i mi gyfarwyddo unrhyw beth!
Mae’r rhaglen ddogfen yn ymwneud â Shirley Walker, barbwr yn fy mhentref. Mae hi wedi bod wrthi’n torri gwallt ers bron i 70 mlynedd (a’i thad yn yr un ystafell am flynyddoedd cyn hi). Mae’r wal wedi’i addurno gyda lluniau o ddynion iddi dorri eu gwalltiau ar hyd y blynyddoedd. Mae’n lle arbennig, ac rwy’n hynod o ffodus o fod wedi cael cyfle i greu’r ffilm.
Rydw i mor ddiolchgar i chi am roi’r cyfle i mi.
Dyma’r ffilm!:
https://www.bbc.co.uk/programmes/m0002y3t