Adroddiad: Deborah Perkin
A minnau ar fy ffordd i’r United Nations Association Film Festival, roedd hedfan i San Francisco dros giât enwog y ‘Golden Gate’ yn wefreiddiol. Ni fuaswn wedi gwneud y daith o gwbl oni bai am grant i deithio yna a dderbyniais gan yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig.
Roeddwn yno i hyrwyddo fy ffilm ddogfen gynta’ ar gyfer y sinema, Bastards. Mae’r ffilm yn olrhain dygnwch un fenyw anllythrennog sy’n ceisio cynnig y bywyd gorau posib i’w phlentyn llwyn a pherth. Mae cymaint yn y fantol gan ei bod yn byw ym Moroco, gwlad Fwslimaidd ble mae rhyw du allan i briodas yn anghyfreithlon
Roedd y cyfleoedd i rwydweithio’n wych a chefais gyfleodd i wneud cysylltiadau ar gyfer prosiectau posib y dyfodol. O safbwynt dosbarthu’r ffilm yn America, roedd yn arbennig o ddefnyddiol cael cyfarfod â chymaint o academyddion o Brifysgol Standford, ble cynhaliwyd yr ŵyl. Addawodd pennaeth yr adran Ddwyrain Canol y byddai’n Standford yn prynu’r ffilm ar gyfer llyfrgell y Coleg. Bydd hyn yn sêl bendith defnyddiol iawn wrth i ddosbarthwyr y ffilm, Icarus Films geisio gwneud gwerthiannau i brifysgolion Americanaidd eraill.