Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig

BAFTA Cymru i Clare Sturges

Llongyfarchiadau i Clare Sturges am ennill gwobr Torri Drwodd BAFTA Cymru, 2015.

Mae Clare yn un o’r nifer o unigolion talentog mae Ymddiried yn eu cefnogi’n flynyddol gyda grantiau, ac rydym yn falch iawn o’i llwyddiant.

Enillodd Clare y wobr arbennig hon am ei ffilm ddogfen, Sexwork, Love & Mr Right. Mae’r ffilm yn dilyn stori putain o ardal ‘red-light’ Amsterdam, sy’n disgyn mewn cariad gydag un o’i chwsmeriaid.

Mae’r ffilm eisoes wedi cael ei darlledu ar sianel ABC2 yn Awstralia ac fe’i dangoswyd yng Ngŵyl Ffilm Genedlaethol i Fenywod yn Los Angeles y llynedd.

Clare yw’r gyfarwyddwraig gyntaf i ennill y wobr arbennig hon

Clare BAFTA selfiebafta logo