Search
Close this search box.

Amdanom ni

Ffurfiwyd Ymddiried yn 1988 a chafodd fudd o ymelwa ar hawliau cyfres animeiddio hynod lwyddiannus S4C, Superted. Superted.

Yn ogystal â bod yn boblogaidd ledled y DU, y gyfres hynod hon oedd y gyfres animeiddiedig Brydeinig gyntaf i'w darlledu ar y Disney Channel yn yr Unol Daleithiau.

Diolch i lwyddiant y sioe mae Ymddiried wedi helpu miloedd o bobl greadigol dawnus o Gymru i uwch-sgilio ac ennyn gwybodaeth a phrofiad pellach o’r fewn y diwydiannau creadigol.

Superted

SUPERTED DELWEDD(AU) © Petalcraft Demonstrations Ltd

Siwan Jobbins Chair

Mae Siwan yn gyn Comisiynydd Plant i S4C, Uwch Gynhyrchydd gyda chwmni animeiddio, Dinamo Productions a Chynhyrchydd i CBBC. Yn ogystal â datblygu, ariannu a chynhyrchu rhaglenni animeiddio ar gyfer sianeli fel S4C, RTÉ, CBeebies a CiTV, mae Siwan wedi ysgrifennu ar gyfresi ar gyfer CBeebies, Milkshake! PBS Sprout a Disney. Mae Siwan bellach yn rhedeg ei chwmni cynhyrchu ei hun, Cynyrchiadau Twt, gan arbenigo mewn rhaglenni plant a chynnwys addysgol ar gyfer darlledwyr a chleientiaid corfforaethol.

Kath Morris

Kathryn Morris Trysorydd

Mae Kathryn yn gyfrifydd siartredig wedi ymddeol, a bu’n Gyfarwyddwr Cyllid yn S4C am flynyddoedd lawer. Mae hi hefyd yn aelod ar fwrdd ymddiriedolwyr nifer o elusennau yng Nghymru, ac yn Drysorydd ar fwrdd Ymddiried. Mae hi'n hoffi gweld sut mae'r gefnogaeth y mae Ymddiried yn ei roi i unigolion, yn eu galluogi i ddatblygu’n broffesiynol yn niwydiant y cyfryngau.

Geraint Ellis

Dr Geraint Ellis

Mae Geraint yn Uwch Ddarlithydd Cyfryngau yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor. Cyn hynny bu’n gynhyrchydd teledu gyda Chwmni Da yn Nghaernarfon, gan weithio ym maes rhaglenni am y celfyddydau yn arbennig, ac mae hefyd yn gyn-gynhyrchydd radio gyda’r BBC ym Mangor. Yn enedigol o Gaerffili, ond hefyd wedi ei fagu ar Ynys Môn, mae’n byw yn ardal Caernarfon ers nifer o flynyddoedd.

Gareth Morlais

Gareth Morlais

Ers codio gwefannau cynnar BBC Cymru Wales ym 1997, mae Gareth wedi ymddiddori ym myd technoleg ddigidol. Bu’n aelod o dîm straeon digidol Cipolwg ar Gymru y BBC rhwng 2001-2008 ac wedyn yn uwch gynhyrchydd ar wefan Cymraeg y gorfforaeth. Bellach mae'n arbenigwr ar dechnoleg Cymraeg yn Llywodraeth Cymru.

Owen Williams

Owen Williams

Mae Owen Williams yn Reolwr Gyfarwyddwr Siml, asiantaeth cyfryngau cymdeithasol creadigol. Mae gan Owen gefndir cryf yn y cyfryngau cymdeithasol, ar ôl arwain Strategaeth Olygyddol yn BBC Content Social, ac fel Arweinydd Cymdeithasol gyda BBC One a BBC Cymru Wales.

Gydag 20 mlynedd o brofiad mewn arloesi digidol, cynhyrchu cynnwys, llywodraethu cyfryngau cymdeithasol ac ôl-gynhyrchu, mae Owen yn arweinydd creadigol ac yn siaradwr cyhoeddus, darlledwr a storïwr o safon, gyda cefndir cryf o lunio a llywio prosiectau digidol ar lwyfannau newydd a datblygol.

Mali Parry Jones

Mali Parry-Jones

Mae Mali Parry-Jones yn gweithio fel Cynhyrchydd i gwmni teledu Darlun yng Nghaernarfon, a dros y blynyddoedd, bu’n gweithio gyda nifer o gwmïau teledu amrywiol ar hyd a lled Cymru yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C a’r BBC. Graddiodd o Brifysgol Bangor yn 2003 gyda MA mewn Cynhyrchu Cyfryngol, ac mae hefyd yn aelod o griw bad achub RNLI Porthdinllaen ar Benrhyn Llŷn.

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn